Dyfodol Deep Speech Mozilla

Mae Mozilla wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer datblygu ymhellach Deep Speech, eu system adnabod lleferydd awtomatig, y tu allan i’r sefydliad. DeepSpeech PlayBook provides a rich resource for supporting the creation of speech recognition models Byddwch yn cofio mai Deep Speech sy’n gyrru Macsen, yr ap cynorthwyydd personol Cymraeg sydd i’w gael ar gyfer… Darllen Rhagor »

Nawdd NVIDIA i Common Voice

Mae’r Mozilla Foundation wedi cyhoeddi bod cwmni technoleg NVIDIA wedi cyfrannu $1.5 miliwn er mwyn cefnogi datblygiad project Common Voice. Mozilla partners with NVIDIA to democratize and diversify voice technology “Launched in 2017, Common Voice aims to level the playing field while mitigating AI bias. It enables anyone to donate their voices to a free,… Darllen Rhagor »

Cael Firefox Browser ar gyfer Chromebook

Mae gosod Firefox ar eich Chromebook yn dod a nifer o fanteision: Mae Firefox ar gael yn Gymraeg ac mae modd defnyddio gwirydd sillafu Cymraeg. Diogelwch rhag tracio parhaus: oherwydd ei ragosod mae Firefox yn rhedeg Diogelwch Rhag Tracio Uwch (ETP) i ddiogelu eich data personol rhag tracwyr. Cefnogi technoleg annibynnol: gan fod y mwyafrif… Darllen Rhagor »

Polisi Cenedlaethol Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau’r ddogfen ymgynghori – Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg. “Pan fyddwn ni’n sôn am ‘seilwaith ieithyddol’, rydyn ni’n sôn am y pethau sy’n ein helpu i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Y brics a’r morter fel geiriaduron ac adnoddau terminoleg, a’r holl waith ymchwil a safoni sy’n mynd ymlaen… Darllen Rhagor »

WordPress 5.7 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich… Darllen Rhagor »

Swyddfa Gefn Umbraco ar gael yn Gymraeg

Mae gan Owain Jones ddisgrifiad o’r broses o osod y cyfieithiad Cymraeg o Umbraco ym mlog Method4. Beth yw Umbraco? Mae Umbraco yn system rheoli cynnwys hyblyg a hawdd golygu cynnwys o’i fewn ar gyfer gwefannau. Mae’n god agored ac mae modd ei ddefnyddio am ddim neu dalu i gael cefnogaeth a gwesteia o fewn… Darllen Rhagor »

Gwirydd Sillafu a Gramadeg WordPress

Ategyn gwirydd sillafu a gramadeg yw hwn ar gyfer cyhoeddi yn y Gymraeg ar wefannau WordPress. Datblygwyd yr ategyn hwn gan Iwan Stanley ar ran Golwg, ar gyfer cynllun cyhoeddi cymunedol Bro360 a gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Golwg360. Mae’n defnyddio’r gwasanaeth Cysill Ar-lein a ddarperir gan Brifysgol Bangor, er mwyn cynnig cywiriadau a gwelliannau… Darllen Rhagor »

Gwefan Technoleg Cymraeg Helo Blod

Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am amryw o raglenni, gwasanaethau ac offer cyfrifiadurol sydd ar gael yn Gymraeg. Mae’n rhyfeddol gweld gymaint o offer ar gael ar gyfer y defnyddwyr Cymraeg. Mae’r wefan ar gael yn Saesneg hefyd.    

Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg 2012

Dydd Gwener, 26 Chwefror, 2021, 9.30 y bore i 4 y prynhawn. Ar-lein ar Zoom Bydd y gynhadledd yn cael ei hagor gan Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, gyda gair o groeso gan Yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor Cadeirydd y Gynhadledd: Yr Athro Delyth Prys Trefnydd y Gynhadledd:… Darllen Rhagor »