Os ydych yn ddefnyddiwr iPhone, iPad, iPod touch byddwch yn falch o ddeall fod Firefox iOS nawr ar gael o App Store Apple.
Mae Firefox iOS yn caniatáu i chi gymryd eich hoff borwr gyda chi lle bynnag fyddwch yn mynd. Mae’n cynnwys nodweddion poblogaidd – chwilio clyfar a hyblyg, rheoli tabiau yn hawdd, cydweddu gyda’ch Cyfrif Firefox a Phori Preifat.
Mae modd defnyddio Cyfrif Firefox i gydweddu eich hanes pori, tabiau a chyfrineiriau a rhannu eich nodau tudalen, gyda’r dyfeisiau eraill i Firefox iOS.
*Awgrymiadau chwilio – darogan beth rydych yn chwilio amdano yn eich hoff beiriant chwilio.
*Tabiau Gweledol – caniatáu i chi reoli tabiau lluosog ar yr un sgrin.
*Pori Preifat – cynnig y gallu i bori’r We heb gadw eich hanes na rannu eich cwcis cyfredol gyda’r wefan rydych yn ymweld â hi.
Er mwyn gallu defnyddio Firefox iOS yn hawdd ar eich dyfais iOS gallwch ei ychwanegu i’r doc ar waelod eich sgrin cartref.
———————————————————————————————-
Er mwyn defnyddio Firefox iOS yn Gymraeg mae angen paratoi ychydig ar eich iPhone, iPad neu iPad touch. Mae angen ei fod yn rhedeg iOS 8.2 neu well. Edrychwch yn Settings>General>About>Version. Os oes modd i chi ddiweddaru, gwnewch hynny.
Ewch i Settings>General>Language & Regions. O dan Preferred Language Order cliciwch ar Add Language… a gosod Cymraeg ar frig y rhestr. Bydd apiau a gwefannau yn defnyddio’r iaith gyntaf ar y rhestr.
Mae gan Mozilla ragor o wybodaeth am eu cynnyrch a sut i bori yn ddiogel ar y we.