Windows 10

Rhyngwyneb Windows 10

 

Gosod y Gymraeg ar Windows 10

Mae’n hawdd gosod y Gymraeg ar Windows 10, does dim angen ailosod Windows 10 na dim byd felly. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd i bob peiriant sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif Microsoft.

Cliciwch Start ac yna Settings

Yna cliciwch Time & Language

Dewiswch Language

O dan Preferred Language cliciwch y botwm Add a Language

Chwiliwch am Cymraeg a dewis y pecyn Cymraeg
Cliciwch Next

Ticiwch y dewis Install language pack
Ticiwch Set as my display language
Ticiwch Handwriting
Cliciwch Install

I orffen gosod y pecyn iaith, cliciwch Yes, sign in now

a bydd y cyfrifiadur yn cau ac ailagor.
Mewngofnodwch eto a gweld y rhyngwyneb Cymraeg.

Bach yn rhagor…

Mae rhai darnau ar goll, serch hynny ac i gael y cyfan o’r Gymraeg sydd ar gael, ewch nôl i’r Cychwyn, Gosodiadau ac i’r dudalen Amser ac Iaith ac agor y ffenestr yn llydan. Mae yna ddewis Administrative Language Settings ar y dde ac mae angen ei glicio. Bydd hyn yn agor ffenestr Rhanbarth.

 

Cliciwch Copïo’r gosodiadau… o dan Gweinyddol. Yn y ffenestr yma ticiwch Sgrin groeso a chyfrifon system ac yna Iawn.

Cliciwch Newid locale y system… a dewis Welsh (United Kingdom) a chlicio Iawn.

Cliciwch Iawn eto a bydd y cyfrifiadur yn gofyn i gael ailgychwyn. Arhoswch iddo wneud hynny a mewngofnodi.

Llongyfarchiadau dylai’r Gymraeg fod ar gael ar haenau uchaf rhyngwyneb Windows 10 o hynny ymlaen. 🙂

Mae gan Microsoft gyflwyniad yn Saesneg ar y broses yn fan hyn.

Camau nesaf:

Gosod Cysgliad am Ddim ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg, To bach ar gyfer acenion fel â, ŵ,ï ac ŷ hawdd a’r dewisiadau iaith yn Microsoft Edge.

Sylw:

Mae Microsoft wedi bod yn gefnogol iawn i’r Gymraeg ers cyfnod Windows XP ac wedi darparu pecynnau iaith neu ffordd i droi’r rhyngwyneb i’r Gymraeg byth ers hynny. Mae ganddyn nhw nifer o raglenni sydd â rhyngwynebau Cymraeg – Microsoft Edge a Microsoft Office yn ogystal a’i fersiwn ar-lein Microsoft 365.

Diolch iddyn nhw ac i’r cyfieithwyr fu’n gweithio ar y gwaith hwn.