Android

Nid yw’r Android swyddogol fel sy’n cael ei ddarparu gan Google i amryw o wneuthurwyr ffonau a thabledi yn cynnig rhyngwyneb Cymraeg.

I wella’r profiad o ddefnyddio Android mae angen gosod ap bysellfwrdd Gboard gan Google sy’n cefnogi’r Gymraeg ac yn cynnig gwirio sillafu a darogan geiriau. Gosodwch hwnnw ar eich ffôn a’i osod i drin y Gymraeg a’r Saesneg.

Gboard

Wedyn mynd i Settings ar y ffôn – llusgo ar y sgrin cartref i lawr ddwywaith nes bod ffenestr â cog bach Settings yn ymddangos. Pwyso ar y cog a bydd ffenestr hir gyda lot o osodiadau’n ymddangos. Symud i waelod y ffenestr a phwyso ar System.

Bydd ffenestr System yn agor ac mae yna d dewis Language & input. Pwyso ar hwnnw a dewis Keyboard & input methods. Dewiswch Gboard fel eich bysellfwrdd. Bydd hyn yn eich helpu rhywfaint gyda gwirio sillafu a darogan testun yn Gymraeg.

Bydd yn peidio cynnig geiriau Saesneg ar ganol ysgrifennu rhywbeth yn Gymraeg, sy’n help!

Mae gan Microsoft ap tebyg, Swiftkey. Maen nhw’n ddefnyddiol iawn!

Swiftkey

Mae apiau Cymraeg cyffredin Android, fel Firefox, Signal, apGeiriaduron, ac ati, yn dibynnu ar ddewis iaith o ddewislen o’u mewn ac felly ar gael yn Gymraeg.

Firefox Android

Mae LineageOS yn system weithredu wedi ei seilio ar Android ar gael yn Gymraeg, mae modd gosod y system ar rhai ffonau Android ac mae modd prynu ffonau symudol gan yr e Foundation sy’n rhedeg y system honno.

LineageOS Cymraeg