iPhone ac Ipad

Yn anffodus does dim modd newid iaith y system Apple i’r Gymraeg ond mae’n hawdd gosod eich iPhone, iPad neu iPod i ddangos apiau yn Gymraeg. Mae’n gweithio ar offer sy’n rhedeg iOS8.2 neu hwyrach*.

Mae angen agor yr ap Settings ac wedyn dewis General.

Wedyn dewis Language & Region.

Tapiwch Add Language… o dan PREFERRED LANGUAGE ORDER.

Chwiliwch am Cymraeg a’i hychwanegu. Wedyn llusgwch Cymraeg i frig y rhestr.

Efallai bydd yn rhaid ailddechrau’r ffôn i’r newid fod yn weithredol. Bydd y dyddiad ar y sgrin clô yn cael ei ddangos yn Gymraeg a bydd yr apiau sydd yn ei gefnogi yn defnyddio’r Gymraeg hefyd. Enghraifft o ap sydd â chefnogaeth lawn yw Signal.

 

Hefyd, mae modd gosod bysellfwrdd Cymraeg drwy ddefnyddio ap Swiftkey, sy’n cynnig gwirio sillafu a darogan geiriau. Defnyddiol iawn!

Swiftkey