Rhaglen gwe-bost IMAP i’w redeg oddi ar weinydd o fewn eich porwr yw Roundcube. Mae ei ryngwyneb yn debyg iawn i’r hyn sydd i’w weld ar rhaglenni e-bost cyffredin fel Outlook a Thunderbird. Mae’n cynnig yr holl swyddogaethau fyddech yn eu disgwyl gan raglen e-bost, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer MIME, llyfr cyfeiriadau, trin ffolderi, chwilio drwy negeseuon a gwirio sillafu.
Mae gan y rhaglen nifer dda o ategion er mwyn ychwanegu swyddogaethau ychwanegol.
Rhyngwyneb
Dewisiadau
Gosod y Gymraeg
Dyma lle mae cael gafael ar Roundcube . Dyma gyfarwyddiadau ar sut i osod Roundcube. Mae modd dewis y Gymraeg wrth ffurfweddu gosod y rhaglen.
Diolch i Dafydd Tomos am gyfieithu’r rhaglen ac am y lluniau.