Geiriadur Prifysgol Cymru

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru  i’w gael ar wefan ac ap ac yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg gynhwysfawr debyg i’r Oxford English Dictionary.

Yn wahanol i GPC Ar-lein mae modd llwytho i lawr holl gynnwys y Geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio.

Mae pob gair yn cael ei ddiffinio yn Gymraeg gyda chyfystyron Saesneg ac enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod ynghyd â tharddiad (etymoleg) i bob gair. Rhoddir gwybodaeth ramadegol fel cenedl a ffurfiau lluosog enwau.

Google Play Store

App Store