Mae Geiriadur Prifysgol Cymru i’w gael ar wefan ac ap ac yn cynnwys holl ddata Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur Cymraeg gynhwysfawr debyg i’r Oxford English Dictionary.
Yn wahanol i GPC Ar-lein mae modd llwytho i lawr holl gynnwys y Geiriadur i’ch dyfais fel nad oes angen cysylltiad â’r Rhyngrwyd i’w ddefnyddio.
Mae pob gair yn cael ei ddiffinio yn Gymraeg gyda chyfystyron Saesneg ac enghreifftiau o’i ddefnydd o bob cyfnod ynghyd â tharddiad (etymoleg) i bob gair. Rhoddir gwybodaeth ramadegol fel cenedl a ffurfiau lluosog enwau.