Y Trawsgrifiwr

Trawsgrifiwr Cymraeg (lleferydd i destun) ar gyfer Windows 10.

Mae’r ap yma’n defnyddio cydrannau adnabod lleferydd Mozilla DeepSpeech er mwyn trawsgrifio popeth mae’r defnyddiwr yn llefaru i destun ar y sgrin. Ac mae’r data Cymraeg yn dod o broject Mozilla CommonVoice.

Defnyddir hefyd ddata testunau wedi eu crafu o’r we Gymraeg ac sydd wedi’i becynnu yng nghorpws OSCAR.

Mae hwn yn feddalwedd beta!