Podlediadau Cymraeg Alexa

Mae’r ‘skill’, Welsh Language Podcasts gan S4C a’r Pod yn eich cynorthwyo i ganfod a chwarae ystod eang o bodlediadau yn y Gymraeg ar eich teclyn Amazon Alexa.

Gan ddefnyddio gorchmynion yn Gymraeg, gallwch wrando ar y rhifyn diweddaraf o’ch hoff bodlediad, chwilio categorïau neu wrando ar rywbeth ar hap!

Mae rhagor o wybodaeth a gwybodaeth ar sut i’w ddefnyddio yn y dudalen gwe podlediadau S4C.