Signal iOS

Gwasanaeth negesu wedi ei amgryptio yw Signal ac mae’n gweithio ar ddyfeisiau symudol Android ac iOS ac ar ddyfeisiau bwrdd gwaith Windows 10, macOS a Linux.

Mae’n defnyddio’r rhyngrwyd i anfon negeseuon un i un neu i grwpiau, sydd hefyd yn gallu cynnwys ffeiliau, nodiadau llafar a delweddau. Mae hefyd modd ei ddefnyddio i wneud galwadau llais a fideo i unigolion a grwpiau.

Mae Signal ar gael yn Gymraeg ar gyfer Android ac iOS. Dyma sut mae ei rhoi ar waith:

Agorwch y rhaglen a phwyso ar y tri dod ar y brig i’r dde. Pwyswch Settings.

Pwyswch Appearance ac yna Language.

Bydd ffenestr â rhestr hir o enwau ieithoedd yn agor. Pwyswch ar Cymraeg.

Bydd y rhyngwyneb yn newid yn syth i’r Gymraeg.