Firefox

Firefox Android

Agorwch Firefox Android ac yna pwyso ar y tri dot ar yr ochr llaw dde. Pwyswch Settings, fydd yn agor tudalen newydd.

Pwyswch Language.

ac yna dewis Cymraeg.

Bydd y porwr yn trosi i ddangos rhyngwyneb a chynnwys Cymraeg.

2. Firefox Bwrdd Gwaith

Dewiswch fersiwn Cymraeg Firefox fel bod y rhyngwyneb i gyd ar gael yn Gymraeg ar ôl ei osod. Gwnewch yn siŵr fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth ar dudalennau gwe, wrth fynd i Dewisiadau o’r hambyrgyr ar frig y de ac yna sgrolio i lawr i’r adran Iaith.

Cliciwch ar Dewis er mwyn dewis iaith i ddangos tudalennau. Bydd hyn yn agor ffenestr newydd.

Os nad yw’r Gymraeg yno defnyddiwch y ddewislen Dewis iaith i’w hychwanegu… i ddewis Cymraeg [cy] ac yna’r botwm Symud i Fyny i symud Cymraeg [cy] i frig y rhestr.

Dylai edrych fel yn y llun uchod. Bydd hyn yn agor tudalennau gwe sydd wedi’u dynodi fel rhai Cymraeg o fewn eu meddalwedd.