Google Chrome – Android ac iOS
(Sgroliwch i lawr am y fersiwn bwrdd gwaith)
Mae apiau gwe Vivaldi, Edge a Microsoft Edge. yn seiliedig ar ap Google ac yn gweithio’n debyg.
Agorwch Chrome a phwyso ar y tri dot ar frig y dde. Tua gwaelod y ddewislen bydd yn dweud Settings
Pwyswch ar Settings ac agor tudalen sy’n cynnwys y pennawd Languages. Cliciwch ar Languages a bydd yn agor tudalen sy’n dangos pa ieithoedd sydd wedi eu gosod yn barod a beth yw eu trefn blaenoriaeth.
Pwyswch ar Add language, bydd hwn yn cynnig rhestr hir o ieithoedd – mae Welsh tua’r gwaelod. Pwyswch arni a bydd yn ymddangos nôl ar y dudalen Languages. Llusgwch y Gymraeg i frig y rhestr a thynnu unrhyw iaith nad oes ei hangen.
O hyn ymlaen bydd Chrome yn cynnig fersiwn Cymraeg gwefannau.
Yn anffodus, nid yw hyn yn digwydd bob tro, gan nad yw pob gwefan wedi ei dynodi fel un Gymraeg o fewn y feddalwedd. Gobeithio fod yna fotwm Cymraeg ar frig y ddalen.
2. Google Chrome Bwrdd Gwaith – Windows 10, macOS a Linux
Mae rhaglenni porwyr gwe Vivaldi, Edge a Microsoft Edge. yn seiliedig ar Chromium rhaglen gwe Google ac yn gweithio’n debyg.
Agorwch Google Chrome a chlicio ar y tri dot ar frig y de.
Cliciwch ar Settings, bydd ffenestr newydd yn agor. Sgroliwch i waelod y dudalen, clicio ar Advanced, a bydd y ffenestr yn estyn eto.
Ar frig yr adran hon, cliciwch ar Language, ac yna ar Add languages, fydd yn agor ffenestr arall, yn cynnwys rhes hir o ieithoedd.
Cliciwch ar Welsh – Cymraeg ac yna Add. Yn ôl yn yr adran Languages, cliciwch ar y tri dot gyferbyn y Gymraeg. Mae dewis yna i Move to the top. Cliciwch hwnnw a bydd y Gymraeg yn symud i frig y rhestr.
Bydd y porwr nawr yn blaenoriaethu’r Gymraeg mewn tudalennau gwe lle mae dewis gwneud hynny.