Gwasanaeth ffonau symudol agored yn seiliedig ar Android yw’r e Foundation ac mae’r rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg.
Mae’r e Foundation yn darparu amgylchedd llawn ar gyfer ffonau symudol, sy’n cynnwys cyfeiriad e-bost, gofod ar y we i gadw e-byst, calendrau, lluniau, ffeiliau, ac ati. Nid yw’r rheini ar gael yn Gymraeg ond mae’n ychwanegu gwerth i ddefnyddio eu gwasanaeth ar sail eu ROM sydd wedi ei addasu ar sail un LineageOS.
Mae modd prynu ffonau newydd ac ail law gan yr e Foundation a thalu i gael ragor o ofod i gadw’ch ffeiliau.
Hefyd, mae modd defnyddio apiau darogan Cymraeg fel Gboard neu SwiftKey ar y ffonau hyn.
Gosod y rhyngwyneb Cymraeg:
Llusgo i lawr ar y sgrin a chwilio am y cog Settings. Pwyso ar hwnnw wedyn chwilio am adran System. Pwyso ar hwnnw ac yna pwyso ar Language and Input. Pwyso ar y dewis Add Language a dewis Cymraeg.