Microsoft 365

Casgliad o raglenni neu apiau swyddfa ar lein yw Microsoft 365. Mae’r casgliad yn cynnwys rhaglenni y mae rhai i’w gweld ar Microsoft Office y bwrdd gwaith – Word, Excel, PowerPoint, OneNote One Drive, Outlook a Teams.

Mae amryw o’r rhaglenni hyn ar gael yn Gymraeg – Word, Excel, PowerPoint ac Outlook ac yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows, Apple a dyfeisiau symudol Android ac iOS.

Mae i Word ei wirydd sillafu cynhenid yn Windows ac mae modd defnyddio bysell boeth Cysgliad am Ddim i wirio’r gramadeg.

Mae’r rhain yn offer y mae angen talu amdanyn nhw i gael eu defnyddio.