LineageOS

Mae fersiwn LineageOS o system weithredu Android nawr ar gael yn Gymraeg ar eich ffôn neu dabled!

Mae’r freuddwyd o gael Android yn Gymraeg wedi ei gwireddu bron yn llwyr diolch i ymdrechion gwirfoddol Aled Powell. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi ei seilio ar LineageOS ac mae’n rhaid fflachio ROM y system ar i ffôn sy’n cael ei gefnogi gan y system. Mae LineageOS yn fenter i redeg Android fel system cod agored llwyr y tu allan i grafangau Google. Mae dal modd rhedeg apiau Google arno.

Mae’r lluniau mae wedi eu darparu yn seiliedig LineageOS 16.0 ac yn rhedeg ar Samsung S5. Mae’r system yn dilyn datblygiad Android ac yn cynnig cyfle i ddiweddaru systemau ar y ffonau sy’n cael eu cynnal.

Dyma’r lluniau sgrin…

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r gwaith hefyd yn cynnwys apiau cyffredin ar ddyfeisiau symudol, calendr, cloc, rhaglen e-bost, ac ati ac mae’r rhain i gyd i’w cael yn Gymraeg.

Hefyd, mae modd defnyddio apiau darogan Cymraeg fel Gboard neu SwiftKey ar y ffonau hyn.

Gosod y rhyngwyneb Cymraeg:

Llusgo i lawr ar y sgrin a chwilio am y cog Settings. Pwyso ar hwnnw wedyn chwilio am adran System. Pwyso ar hwnnw ac yna pwyso ar Language and Input. Pwyso ar y dewis Add Language a dewis Cymraeg.