Google Drive

Mae Google Drive yn un o wasanaethau gwe cwmni Google. Os oes gyda chi gyfrif Google, mae modd cysylltu’r gwasanaeth cadw data hwn â’ch dyfais Android, Apple neu ddyfais desg. Mae’n llawn nodweddion defnyddiol ac yn bwerus iawn.

I ddefnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg, cliciwch ar y cog ar frig de’r dudalen, clicio Gosodiadau ac yna Iaith: Newid gosodiadau iaith. Dewiswch Cymraeg. Dylai wedyn symud i ddangos y rhyngwyneb Cymraeg.

Dim ond ar y fersiwn porwr ar-lein mae’n ymddangos yn Gymraeg. Nid yw’r ap yn Gymraeg.

——————

Os nad ydych eisiau i Google eich dilyn pob cam o’ch ffordd, gallwch osod estyniad Google Container yn Firefox, sy’n eich ynysu rhag tracio gan Google.