Google Meet

Mae Google Meet yn wasanaethau fideo gynadledda gan Google. Os oes gyda chi gyfrif Google, mae modd defnyddio’r gwasanaeth fideo gynadledda yma ar eich Android, Apple neu ddyfais desg. Mae’n llawn nodweddion defnyddiol ac yn bwerus iawn.

I ddefnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg, gwnewch yn siŵr fod gosodiadau eich porwr yn nodi’r Gymraeg fel eich prif iaith.

Dim ond ar y fersiwn porwr ar-lein mae’n ymddangos yn Gymraeg. Nid yw’r ap yn Gymraeg.

——————

Os nad ydych eisiau i Google eich dilyn pob cam o’ch ffordd, gallwch osod estyniad Google Container yn Firefox, sy’n eich ynysu rhag tracio gan Google.