Google Keep

Mae Google Keep yn un o wasanaethau gwe cwmni Google. Os oes gyda chi gyfrif Google, mae modd cysylltu’r gwasanaeth cadw nodiadau hwn â’ch dyfais Android, Apple neu ddyfais desg. Mae’n llawn nodweddion defnyddiol ac yn bwerus iawn.

I ddefnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg, gwnewch yn siŵr fod eich gosodiadau gwasanaethau Google ar-lein wedi pennu’r Gymraeg fel eich dewis iaith.

Dim ond ar y fersiwn porwr ar-lein mae’n ymddangos yn Gymraeg. Nid yw’r ap yn Gymraeg.

——————

Os nad ydych eisiau i Google eich dilyn pob cam o’ch ffordd, gallwch osod estyniad Google Container yn Firefox, sy’n eich ynysu rhag tracio gan Google.