Google Contacts

Mae Cysylltiadau Google yn un o wasanaethau gwe cwmni Google. Os oes gyda chi gyfrif Google, mae modd cysylltu’r cysylltiadau hyn i’ch dyfais Android neu Apple. Mae’n llawn nodweddion defnyddiol ac yn bwerus iawn.

I ddefnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg, cliciwch ar y cog ar frig de’r dudalen, clicio Mwy o osodiadau ac yna Dewis eich iaith ar gyfer Gwasanaethau Google. Dewiswch Cymraeg. Dylai wedyn symud i ddangos y rhyngwyneb Cymraeg.

Dim ond ar y fersiwn porwr ar-lein mae’n ymddangos yn Gymraeg. Nid yw’r ap yn Gymraeg.

——

Os nad ydych eisiau i Google eich dilyn pob cam o’ch ffordd, gallwch osod estyniad Google Container yn Firefox, sy’n eich ynysu rhag tracio gan Google.