Common Voice yw cynllun Mozilla i helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go-iawn yn siarad.
Mae’r cynllun yn cynnwys ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg. Mae’r cynllun yn un agored felly mae gwahoddiad i bawb sy’n siarad Cymraeg i gyfrannu eu llais, i wirio’r lleisiau ac i ddatblygwyr ddatblygu’r dechnoleg ar gyfer gwasanaethau Cymraeg eu hiaith.
A wnewch chi gyfrannu, os gwelwch chi’n dda?