Microsoft Edge

Microsoft Edge  yw porwr cynhenid Microsoft yn Windows 10 – mae pob cyfrifiadur Windows yn cynnwys Edge. Os ydych wedi gosod eich cyfrifiadur i fod yn Gymraeg bydd Edge yn ymddangos yn Gymraeg, gyda’r gosodiadau iaith yn eu lle ond os ydych yn ei osod o’r newydd, mae’n werth mynd i edrych i weld beth sydd yn ei le.

 

 

 

 

 

Agorwch Microsoft Edge a chlicio ar y tri botwm ar y brig ar y dde.

Bydd dewislen yn agor ar y chwith a dewiswch Gosodiadau neu Settings

Bydd hyn yn agor dewislen arall a dewiswch Ieithoedd neu Languages

Mae’r llun uchod yn dangos sut ddylai eich dewisiadau fod. Os oes angen ychwanegu’r Gymraeg, clicio ar Add Language a dewis y Gymraeg. Pan fydd y Gymraeg wedi ei gosod, symudwch y Gymraeg i frig y rhestr.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi galluogi gwirio sillafu Cymraeg a bod y dot gwyn a’r cefndir glas i’r chwith a fod y Gymraeg ar frig y rhestr.

Os ydych yn defnyddio Internet Explorer, mae technoleg wedi symud ymlaen ac mae’n cael ei ystyried i fod yn rhaglen anniogel. Mae’n well symud i ddefnyddio Edge neu Firefox.