Mae cyfrifiaduron Chromebook yn gyfrifiaduron bach, syml a phoblogaidd, yn arbennig mewn ysgolion. Eu gwendid ar gyfer defnyddwyr Cymreig o gymharu â Windows yw eu diffyg rhyngwyneb ac offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg.
Sut mae modd gwneud y gorau o’r sefyllfa?
Agorwch y cyfrifiadur a mewngofnodi i’ch cyfrifiadur gyda’ch cyfrif Google ac aros i’r bwrdd gwaith ymddangos. Cliciwch ar y cloc ar waelod y sgrin ar y chwith. Bydd dewislen yn agor ar ar y brig tua’r chwith mae’n na gog bach Settings.
Cliciwch ar Settings a bydd ffenestr newydd yn agor. Ewch i waelod y ffenestr a chlicio ar Advanced. Bydd y ffenestr newydd yma’n agor.
Cliciwch ar y pennawd Languages & Input
ac yna ar Add Languages, mewn glas. Bydd hyn yn agor dewislen o ieithoedd ac mae’r Gymraeg- Welsh lawr y gwaelod.
Cliciwch arno a bydd yn cael ei hychwanegu i’r rhestr. Symudwch Welsh i frig y rhestr, fel bod y system yn dewis pethau Cymraeg fel blaenoriaeth.
Beth sydd ar gael yn Gymraeg?
Mae Google wedi cyfieithu rhyngwynebau amryw o’u hapiau yn G Suite for Education neu Google Workspace ar gyfer y dosbarth a’r swyddfa ond nid ChromeOS ei hun. Mae hynny yn drueni.
Mae modd defnyddio Cysill Ar-lein fel gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg ond mae braidd yn lletchwith gan mai dim ond un tudalen sy’n gallu bod ar agor ar y tro.
Yn anffodus, ychydig o raglenni sydd ar gael ar farchnad ChromeOS ac nid yw’r gallu i redeg apiau Android wedi ei ddatblygu eto. Mae modd rhedeg rhai rhaglenni Linux arno drwy’r addasydd Linux, felly gall hynny fod o ddiddordeb i rai.