Ubuntu

 

 

 

 

Mae Ubuntu yn fersiwn poblogaidd iawn o GNU/Linux. Mae tipyn go-lew o ryngwyneb Ubuntu ar gael yn Gymraeg.

Mae’n cynnwys yr holl ddeunydd arferol mewn system weithredu, rheoli ffeiliau, trefnu gwedd, sain, cydraniad y system ac mae yna ystod eang iawn o raglenni y mae modd eu llwytho i lawr a’u gosod am ddim. Mae’r system yn dod a nifer sylweddol o raglenni safonol wedi eu gosod yn barod – Firefox, Thunderbird, LibreOffice, ac ati. Mae’r rhain i gyd yn dod yn eu fersiynau Cymraeg.

Diolch i’r criw fu’n cyfrannu at y cyfieithiad Cymraeg