Rhyngwyneb cofnodi gwybodaeth amgen yw Dasher. Mae’n cael ei yrru gan y broses o bwyntio’r cyrchwr. Mae’n addas ar gyfer adegau lle nad oes modd defnyddio bysellfwrdd am unrhyw reswm.
Mae modd cysylltu’r rhaglen i lygoden, sgrin cyffwrdd neu ffon hud o unrhyw fath, mae hefyd modd ei ddefnyddio heb ddwylo drwy lygoden pen neu draciwr llygad.
Gydag ychwydig o ymarfer mae modd defnyddio’r system yn effeithiol iawn. Mae’r llygoden ynghlwm wrth y linell fertigol drwy gyfrwng llinell goch. Wrth gyfeirio’r cyrchwr mae posib dewis y llythrennau sy’n cael eu cynnig er mwyn creu geiriau a brawddegau. Yn ddiddorol, mae’r fersiwn Gymraeg yn ei gwneud yn anodd i gam dreiglo gan nad yw’r rhaglen yn fodlon iawn i’w cynnig.
Gosod y fersiwn Gymraeg
Ar waelod rhyngwyneb y rhaglen dewiswch Cymraeg/Welsh, fel yn y llun. Mae modd cyflymu neu arafu’r rhaglen drwy’r rheolydd ar y gwaelod chwith.
Hyd y gwela i does dim modd cyfieithu’r rhyngwyneb.
Cynhyrchwyd yr eirfa Gymraeg ar sail corpws Cronfa Electroneg o Gymraeg (CEG), 2001.