Virtaal

Mae Virtaal yn raglen syml a phwerus ar gyfer cyfieithu ffeiliau gettext: .po, .pot a .mo.

Mae system gettext yn system safonol o fewn trefniadau cyfieithu rhyngwynebau o fewn byd cod agored. Er bod llawer o raglenni wedi mabwysiadu systemau ar-lein mae lle i raglenni fel Virtaal, gan fod ganddo rai nodweddion defnyddiol.

Fel mae rhaglenni eraill yn gallu gwneud, mae’n trin ffeiliau .pot a .po ond hefyd, mae’n gallu agor ffeiliau .mo, y ffeiliau sydd wedi eu creu i’w darllen gan beiriannau yn unig. Mae hyn yn golygu bod modd golygu ffeil .mo, os nad yw’r pot neu .po gwreiddiol ar gael.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .