OmegaT

Rhaglen cof cyfieithu ar gyfer cyfieithwyr yw OmegaT ar gyfer cyfieithu dogfennau. Rhaid cynnig y cyfieithiad, dyw e ddim yn cyfieithu ar eich rhan! Mae cyfieithiad Cymraeg o’r rhyngwyneb ar gael, mae Cysill yn cydweithio gyda’r rhaglen ac mae geiriadur ar gael ar gyfer gwirio sillaf.

Mae’r rhaglen yn gallu trin nifer fawr o fathau o ffeiliau megis XHTML and HTML, Microsoft Office 2007 XML, LibreOffice/StarOffice, XLIFF (Okapi) MediaWiki (Wikipedia), ffeiliau .po a thestun plaen. Mae ganddo ryngwyneb i Google Translate.

Mae modd defnyddio rhaglen Writer, LibreOffice fel cyfrwng i drosi dogfennau .doc Microsoft Office i rtf ar gyfer y cyfieithu.

Mae ar gael ar gyfer Windows 10, MacOS a Linux.

Rhyngwyneb

OmegaT - rhyngwyneb

Rheoli Segmentu

OmegaT – segmentu