Casgliad o raglenni gwirio Cymraeg ysgrifenedig yw Cysgliad. Mae’n cynnwys Cysill 3, Cysgeir a Thesawrws.
Mae Cysgliad yn gweithio gyda Microsoft Office a LibreOffice yn ogystal â rhai rhaglenni eraill drwy gyfrwng ‘bysell boeth’. Mae esboniad ar sut i wneud hynny ar wefan Cysgliad. Mae Cysgliad i’w gael mewn siopau Cymraeg lleol neu yn uniongyrchol o Ganolfan Bedwyr.
Cysill 3
Mae Rhaglen gwirio gramadeg yw Cysill. Mae’n gwirio camsillafiadau, cam dreigliadau a gwallau gramadeg. Mae hefyd yn gallu dysgu geiriau a ffurfiau newydd.
Os yw To-Bach f.1, Cwmni Draig wedi ei osod ar eich cyfrifiadur bydd angen newid manylion y Fysell Boeth gan fod yna wrthdaro. Mae’n hawdd gwneud hynny. Ewch i Dangos > Dewisiadau > Bysellau Brys a newid yr Ctrl+Alt+w i Ctrl+Alt+g.
Pan fyddwch mewn rhaglen ac angen gwirio eich Cymraeg, agorwch Cysill, amlygu eich testun, pwyso Ctrl+Alt+w a bydd y testun yn cael ei anfon i Cysill yn barod i’w wirio. Ar ôl ei wirio a’i gywiro bydd y testun yn cael ei anfon yn ôl i’ch rhaglen. Da!
Thesawrws
Mae’r Thesawrws yn gweithio o fewn Cysill. Cliciwch ar Dangos a dewis Thesawrws neu bwyso F6. Teipiwch air i’r maes ar y chwith a daw gair cyfystyrol yn y maes i’r dde.
Cysgeir
Rhaglen geiriadur sy’n gynnyrch nifer o eiriaduron termau yn ogystal â’r geiriadur Cysill gwreiddiol.