Yn sgil gwaith sylweddol Microsoft yn cyfieithu eu meddalwedd i lawer o ieithoedd mae nhw’n darparu Porth Termau o eirfa a thermau mae nhw’n eu defnyddio. Mae’r Porth yn cynnwys y modd i:
- chwilio am gyfieithiad o eiriau a thermau gydag enghreifftiau o’u defnydd
- llwytho i lawr ffeil .tbx o’r holl derminoleg Cymraeg sydd gan Microsoft
- llwytho i lawr ffeiliau iaith rhaglenni wedi eu lleoleiddio os ydych yn tanysgrifio i Microsoft Developer Network (MSDN) neu i Microsoft TechNet
- gael mynediad at API o’r gronfa terminoleg er mwyn defnyddio’r data mewn rhaglen neu ap
- lwytho i lawr canllaw arddull Cymraeg Microsoft