Windows 8 Cymraeg

Gan | 12/12/2014

Windows 8-1 Dechrau Mae Microsoft yn gefnogwr brwd i’r Gymraeg ac yn darparu rhyngwyneb Cymraeg i Windows 8 ac 8.1. Mae’n hawdd gosod y Gymraeg – mae’r cyfan yn cael ei wneud o fewn y system wrth i chi ddewis iaith.

Ewch i’r Panel Rheoli -Win+R a theipio Control Panel sydd hawsaf. Ar ôl cyrraedd chwilio am Clock, Language and Region. Yno mae llinell Add Language. Clicio ar hwnnw ac edrych i weld â yw Welsh yno. Os nad, clicio ar Add Language a bydd rhestr hir o ieithoedd yn ymddangos gyda’r Gymraeg ar y gwaelod – Welsh, wrth gwrs. Clicio ar y botwm Welsh ac aros i’r pecyn lwytho i lawr a gosod ei hun.

Mae adnoddau meddalwedd Cymraeg Microsoft i’w gweld yn eu Canolfan Meddalwedd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .