Rhyddhau Firefox Android Cymraeg

Gan | 03/09/2014

Firefox AndroidMae’r porwr gwe Cymraeg cyntaf ar gyfer ffonau symudol a thabledi – Firefox Android, newydd ei ryddhau. Mae Firefox Android ar gael o’r Google Play Store ar gyfer pob dyfais sy’n rhedeg Android 2.2 neu well .

Mae Firefox Android yn borwr gwe rhydd a rhad sy’n rhoi grym y we agored yn eich dwylo. Mae’r porwr yn gyflym, hawdd ei ddefnyddio a hawdd ei gyfaddasu gyda’r nodweddion diogelwch a phreifatrwydd i’ch helpu i fod yn ddiogel ar y we.

Rhyngwyneb a dewislen offer Firefox Android.

Rhyngwyneb a Dewislen Firefox Beta

Cyfarwyddiadau gosod:

Gwiriwch i weld os yw Firefox Android yn gyfaddas â’ch dyfais.

Mae Firefox Android angen Android 2.2 neu ddiweddarach a thua 29 MB o le sbâr. Mae’n rhedeg orau ar ddyfeisiau gydag o leiaf 384 MB o RAM. Mae Mozilla’n darparu rhestr o ddyfeisiau sy’n cael eu cynnal.

Gosodwch Firefox Android o’r Google Play Store.

Firefox Beta - Dewis iaith

Bydd yr ap yn agor yn Saesneg. I ddewis y rhyngwyneb Cymraeg, ewch i Settings>Language. Bydd dalen Browser Language a System Default yn ymddangos. Pwyswch ar System Default a bydd dewis o ieithoedd yn ymddangos. Sgroliwch lawr i Welsh. Pwyswch ar y cylch bach nes ei fod yn troi’n las. Bydd y sgrin yn newid i’r Gymraeg. Bosib bydd angen ailgychwyn y rhaglen neu hyd yn oed y ddyfais i gael y Gymraeg i ymddangos. Mwynhewch!

Mae yna ragor o wybodaeth am waith Mozilla ar eu gwefan Cymraeg ac ar y blog

 

 

 

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .