Firefox Android Beta Cymraeg

Gan | 20/08/2014

Bydd porwr Firefox ar gyfer ffonau a thabledi Android ar gael yn fuan yn Gymraeg! Yn y cyfamser mae’r fersiwn Beta wedi ei ryddhau er mwyn ei brofi yn gyhoeddus ac mae cyfle i chi ei brofi ac anfon adborth, os hoffech chi wneud hynny, at Mozilla.

Mae Firefox Android yn borwr gwe rhydd a rhad sy’n rhoi grym y we agored yn eich dwylo. Mae’r porwr yn gyflym, hawdd ei ddefnyddio a hawdd ei gyfaddasu gyda’r nodweddion diogelwch a phreifatrwydd i’ch helpu i fod yn ddiogel ar y we.

Rhyngwyneb a dewislen offer Firefox Beta.

Rhyngwyneb a Dewislen Firefox Beta

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agor y rhyngwyneb Cymraeg

Firefox Beta - Dewis iaith

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarwyddiadau gosod:

Gwiriwch i weld os yw Firefox Beta yn gyfaddas â’ch dyfais.

Mae Firefox Beta angen Android 2.2 neu ddiweddarach a thua 24 MB o le sbâr. Mae’n rhedeg orau ar ddyfeisiau gydag o leiaf 384 MB o RAM. Mae Mozilla‘n darparu rhestr o ddyfeisiau sy’n cael eu cynnal.

Gosodwch Firefox Beta o’r Google Play Store.

Bydd yr ap yn agor yn Saesneg. I ddewis y rhyngwyneb Cymraeg, ewch i Gosodiadau>Iaith. Bydd dalen Browser Language ac English yn ymddangos. Pwyswch ar English a bydd dewis o ieithoedd yn ymddangos. Sgroliwch lawr i’r Gymraeg. Pwyswch ar y cylch bach nes ei fod yn troi’n las. Bydd y sgrin yn newid i’r Gymraeg. Mwynhewch!

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .