XBMC – Canolfan Amlgyfrwng

Gan | 02/07/2013
Canolfan Cyfryngau Amlgyfrwng

Canolfan Amlgyfrwng

Mae XBMC yn feddalwedd sy’n ganolfan amlgyfrwng a chanolfan difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux.

Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth.  Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer helaeth o reolyddion pell a rhyngwyneb trawiadol o hardd. Mae yna ddegau o ategion ar gael ar ei gyfer sy’n estyn ei allu yn sylweddol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y theatr cartref. Mae fersiynau ar gael ar gyfer y Raspberry Pi sy’n caniatáu i chi greu cyfrifiadur amlgyfrwng bychan a rhesymol iawn ei bris.

Mae’n gallu chwarae ystod eang o fformatau ffeiliau sain a fideo ac yn gallu ffrydio amlgyfrwng o fewn rhwydweithiau. Gall chwarae CD a DVD. Mae gallu cynhyrchu rhestrau ar gyfer darparu llyfrgelloedd o ddeunydd gan ddangos cloriau, disgrifiadau a chelf selogion. Mae yna swyddogaethau rhestrau chwarae a sioeau sleid, y tywydd a rhithwelediadau sain.

Mae yna ddegau o ategion sy’n estyn gallu’r ganolfan yn bennaf yr ategion sy’n darparu gwasanaethau teledu iPlayer BBC, ITV, Sianel 4 a 5 Lloegr. Mae ategyn hefyd ar gael ar deledu Iwerddon a sianeli ar draws Ewrop a’r byd… Nid yw’n darparu cefnogaeth ar gyfer gwefannau masnachol sy’n gofyn am ddiogelu cyfrwng.

Mae’r rhaglen ar gael o wefan www.xbmc.org ac mae’r rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn yr adran Appearance>International

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .