Firefox ar gyfer Android

Gan | 06/12/2012
Logo Firefox Android

Logo Firefox Android

Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn Cymraeg o Firefox ar gyfer Android. Mae’n borwr cyflym ac effeithiol ar gyfer Android ac yn cynnwys amryw o nodweddion Firefox ar gyfer y bwrdd gwaith. Mae modd cydweddu nodau tudalen ac ymweliadau drwy’r nodwedd Sync.

Mae’r porwr yn gweithio ar y rhan fwyaf o ffonau a thabledi diweddar sy’n rhedeg Android 2.2 neu well. Mae’r fersiwn ar gael oddi ar eu sianel datblygiadol Aurora. Bydd angen ffurfweddu eich ffôn er mwyn derbyn ffeiliau o du allan i Google Play. Android 2.3: Settings > Applications,  Android 4: Settings > Security a thicio “Unknown sources”.

Dewiswch y ffeil sy’n gorffen cy.android-arm.apk a chlicio arni ar ôl iddi lwytho i lawr.

Sianel datblygol yw Aurora sy’n cael ei ddiweddaru bob nos. Os byddwch am fentro byddwch yn cael cynnig fersiwn newydd yn ddyddiol! Ar hyn o bryd nid yw Mozilla wedi gweithi allan sut i ddosbarthu 70+ o fersiynau iaith gwahanol drwy Google Play…

Un sylw ar “Firefox ar gyfer Android

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .