Firefox Cymraeg ar gael drwy’r Microsoft Store

Gan | 10/11/2021

Mae’r porwr Mozilla Firefox nawr ar gael o’r Microsoft Store ar gyfer cyfrifiaduron Windows 10 ac 11. Ewch i’r Microsoft Store, chwilio am Firefox ac yna ei ‘Nôl’.

Ymhen ychydig fydd wedi ei osod ar eich cyfrifiadur. Gan fy mod i wedi gosod y Gymraeg fel iaith y cyfrifiadur ymddangosodd y fersiwn Cymraeg yn ddi-lol.


Mae’n edrych yn union fel y fersiwn arferol o wefan Mozilla ac mae addewid y bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd drwy’r Microsoft Store.

Ffordd hawdd a didrafferth o osod Firefox ar eich cyfrifiadur Windows.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .