Firefox iOS ac Android – beth sy’n newydd…

Gan | 05/11/2021

Cafodd porwyr Firefox ar gyfer iOS ac Android eu rhyddhau yn ddiweddar ac maen nhw ar gael i’w diweddaru neu ar gael o’r App Store neu Google Play.

Firefox iOS

– Mae modd gweld tabiau agored a hoff wefannau mewn un man.

– Y sgrin Cartref yn addasu wrth i chi ei ddefnyddio.

Bydd rhagor o ddatblygiadau i’r porwr iOS fel y rhai Android yn cyrraedd yn y fersiwn nesaf.

Firefox Android

Symud nôl i’r cynnwys sydd o ddiddordeb i chi. Ar y dudalen Cartref newydd sy’n hawdd i’w addasu mae:

– Tabiau diweddar.

– Nodau tudalen newydd.

– Chwilio diweddar.

– Erthyglau sy’n cael eu hargymell gan Pocket.

* Bydd tabiau nad ydych wedi’u darllen ers pythefnos yn cael eu symud i’r adran Anweithredol i gadw’ch tudalen tabiau’n dwt. Mae modd newid hyn yn y gosodiadau.

Wedi newid:

– Mae gosodiadau nawr ar gael i reoli pa adrannau sy’n weladwy ar eich tudalen cartref.

– Mae eitemau awgrymiadau ar sail hanes pori’n fwy perthnasol.

Rhagor: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new

Firefox Focus – iOS/Android

Themâu newydd – golau a thywyll neu ddilyn thema’r ddyfais. Mae modd eu newid yn y gosodiadau.

– Mae’r anogydd Dangos awgrymiadau chwilio i’w weld yn iawn yn y modd tirlun.

– Mae modd gadael fideos YouTube yn lân.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .