Firefox 94.0 – beth sy’n newydd…

Gan | 02/11/2021

Heddiw yw diwrnod ryddhau Firefox 94 y Bwrdd Gwaith ac mae’n cynnwys nifer o nodweddion newydd, gwelliannau ymarferol a diogelwch. Mae’r diweddaru hefyd yn golygu y bydd y fersiwn tymor hir ar gyfer menter Firefox ESR hefyd yn cael ei ddiweddaru ac yn symud o Firefox 78 ESR i Firefox 91 ESR. Bydd Firefox Android hefyd yn cael eiddiweddaru.

Bydd y diweddariad una i’n cael ei osod yn awtomatig neu â llaw. Mae Firefox ar gael o https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/

Nodweddion a Gwelliannau

Llwybrau Lliw

Mae modd dewis o balet lliwiau tymhorol i greu thema ar gyfer y porwr neu cadw’r palet arferol. Nodwedd dros dro yw’r paletau ac mae nhw hefyd ar gael drwy Offer ac Ychwanegion>Themâu  a sgrolio i lawr i Llwybrau Lliw. Gallwch weld mwy na chwe phalet i’w cael yno. Mae modd newid yn ôl i’r thema arferol yn rhwydd.

 

Diweddaru yn y Cefndir yn Windows

Bydd diweddariadau Windows o hyn ymlaen yn cael eu gwneud yn awtomatig. Mae modd rheoli’r broses drwy Offer>Gosodiadau a sgrolio i Caniatáu i Firefox a’i reoli drwy’r blwch ticio ‘Defnyddio gwasanaethau cefndirol i osod diweddariadau’

Ynysu Gwefannau

Mae ynysu gwefannau yn anelu i wella preifatrwydd a diogelwch yn sylweddol drwy ynysu tudalennau gwe ac ifframau trydydd parti. Golyga’r peirianwaith newydd fod Firefox yn gwahanu cod o wefannau gwahanol fel nad oes modd iddyn nhw geisio cael mynediad at wybodaeth sensitif o wefannau eraill rydych yn ymweld â nhw.

Estyniad Cynhwysyddion Aml-Gyfrifon Firefox (Multi-Account Containers)

Cynniga’r Cynhwysyddion Aml-Gyfrifon ffordd i rannu eich gweithgareddau ar-lein i endidau ar-wahân. Mae nhw nawr yn cynnig cefnogaeth i wasanaeth Mozilla VPN. Bydd y Cynwysyddion Aml-Gyfrifon Firefox ar gael yn Gymraeg cyn bo hir.

Eraill

Cefnogaeth i Gynlluniau Snap Windows 11: Firefox yn gallu cael ei gynnwys o fewn gofodau snap yma.

Dadlwytho Tabiau: cau rhai tabiau pan mae’r baich ar y cof yn mynd yn ormod, er mwyn diogelu sefydlogrwydd y rhaglen.

Manylion llawn i’w cael o https://www.mozilla.org/en-US/firefox/94.0/releasenotes/

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .