Firefox Relay

Gan | 21/10/2021

Gwasanaeth newydd i’ch diogelu’ch e-bost a’ch hunaniaeth ar-lein yw Firefox Relay. Mae’n cael ei gynnig gan Mozilla, gwneuthurwyr Firefox a hyrwyddwyr Common Voice.

Sut mae’n gweithio? – ar gyfer mewngofnodi i wefannau amheus mae modd defnyddio arallenw neu alias drwy wasanaeth Relay yn lle eich cyfeiriad e-bost go iawn. Mae’n well cadw eich e-bost go iawn ar gyfer gwefannau rydych yn ymddiried ynddyn nhw – banc, doctor, ac ati..

Bydd angen cofrestru am y gwasanaeth drwy eich cyfrif Firefox a gosod ychwanegyn Relay ar eich porwr Firefox. Bydd yr ychwanegyn yn dangos eicon piws Relay ar frig y rhyngwyneb. Mae’r fersiwn am ddim yn cynnig pump arallenw i’w defnyddio. Wrth i chi fynd i dudalen lle mae gofyn i chi greu mewngofnod, mae’r eicon yn ymddangos yn y blwch e-bost. Gallwch glicio arno ac mae’n creu cyfeiriad e-bost arall ar eich cyfer fydd yn ailgyfeirio nôl i’ch e-bost go iawn.

Mae hyn yn osgoi rhannu eich manylion personol â gwefannau amheus. Mae manylion llawn ar gael ar wefan Firefox Relay – yn Gymraeg os ydych wedi gosod eich dewis iaith i’r Gymraeg.

Mae gwasanaeth uwch mwy cynhwysfawr ar gael o’r enw Firefox Relay Premium sy’n cynnig mwy na 5 cyfeiriad arallenw yn y fersiwn am ddim.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .