Windows 11 Newydd

Gan | 12/10/2021

Mae Windows 11 wedi cyrraedd ac mae ar gael am ddim ac yn Gymraeg. Ewch i’ch dalen Diweddaru a Diogelwch i weld os ydych yn cael cynnig. Nid pawb fydd. Er mwyn cynyddu elfennau diogelwch y system mae Microsoft wedi penderfynu cyfyngu Windows 11 ar gyfer cyfrifiaduron diweddar yn unig.

Os oes gennych chi gyfrifiadur diweddar, addas, bydd Widows yn eich hysbysu ar y dudalen Gosodiadau>Diweddaru a Diogelwch>Windows Update ei fod ar gael. Mae ffyrdd i oresgyn cyfyngiadau gosod Windows 11 ond nid yw Microsoft yn eu cymeradwyo. Os yw ar gael, bydd Microsoft yn cynnig y diweddariad i chi yn y dyfodol agos.

Dim amynedd? Defnyddiwch y Windows11InstallationAssistant.

Ydy e’n wahanol? Wel, ydy, rhyw ychydig ond dim llawer i gynhyrfu drosto – mae Windows 10 yn dal i weithio!

Mae’r bar tasgau, y ddewislen cychwyn a’r Ganolfan Weithredu yno o hyd, er bod yn rhaid clicio ar eicon y batri i agor y Ganolfan Weithredu. Tua chanol y bar tasgau, fel yn MacOS yw leoliad newydd y botwm cychwyn ac mae’r dewis o raglenni sydd ar y cyfrifiadur yn cael eu dangos arno a mynediad i’r Gosodiadau. Oddi tanno’n mae eiconau’r ffeiliau diweddar ac ati. Mae’r Gosodiadau wedi cael rhywfaint o newid diwyg ond yn reit hawdd eu trin, er nad yw’r cyfieithiadau newydd o’r safon na’r cysondeb arferol. Bydd yn cymryd bach o amser i arfer â phethau.

O agor y Chwilotwr Ffeiliau ar ei newydd wedd mae corneli crwn newydd Windows yn cael eu hamlygu, ac mae’r rheini’n ymddangos ar bob rhaglenni ar y system weithredu, sy’n rhoi golwg newydd a gwahanol iddyn nhw.

Nodweddion ychwanegol yw’r cynlluniau Snap i grynhoi ffenestri rhaglenni ar y sgrin yn ôl patrwm penodol, paen Teclynnau – tywydd, newyddion, ac ati, ac integreiddio Microsoft Teams. Dyw cefnogaeth gynhenid i apiau Android drwy Apstore Amazon heb gyrraedd eto. Cafodd y Microsoft Store ddiweddariad o ran golwg ond ychydig o gynnwys newydd sydd yno.

Fydd Windows 11 ar gael ar gyfrifiaduron newydd yn y dyfodol agos ac os ydych newydd brynu un dylai fod modd diweddaru i Windows 11 yn hwylus.

Bydd Windows 11 ar gael yn Gymraeg os ydych eisoes wedi gosod Windows 10 i’r Gymraeg. Mae’r cyfieithiad o’r Paent diwygiedig wedi diflannu a does dim o’r teclynnau yn yr adran Teclynnau ar gael yn Gymraeg, er bod rhan o’r rhaglen yn Gymraeg. Mae modd gosod teclynnau tywydd, stoc, newyddion, er dwi wedi methu cael Golwg360 na Nation.cymru i ymddangos yna.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .