Dyfodol Deep Speech Mozilla

Gan | 22/04/2021

Mae Mozilla wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer datblygu ymhellach Deep Speech, eu system adnabod lleferydd awtomatig, y tu allan i’r sefydliad.

DeepSpeech PlayBook provides a rich resource for supporting the creation of speech recognition models

Byddwch yn cofio mai Deep Speech sy’n gyrru Macsen, yr ap cynorthwyydd personol Cymraeg sydd i’w gael ar gyfer iPhone ac Android. Mae’r gwaith hwnnw’n cael ei gydnabod yn y cyhoeddiad. Llongyfarchiadau i’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor!

Mae Mozilla newydd gyhoeddi y DeepSpeech Play Book fel modd i gynorthwyo partïon eraill i ddatblygu’r dechnoleg yn ôl eu hanghenion. Bydd rhaglen grantiau i gefnogi datblygiad y gwaith yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae rhai o’r cyn weithwyr ar y project wedi sefydlu eu cwmni eu hunain er mwyn parhau i ddatblygu’r dechnoleg – Coqui

Darllen pellach: Venture Beat

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .