Mae gosod Firefox ar eich Chromebook yn dod a nifer o fanteision:
- Mae Firefox ar gael yn Gymraeg ac mae modd defnyddio gwirydd sillafu Cymraeg.
- Diogelwch rhag tracio parhaus: oherwydd ei ragosod mae Firefox yn rhedeg Diogelwch Rhag Tracio Uwch (ETP) i ddiogelu eich data personol rhag tracwyr.
- Cefnogi technoleg annibynnol: gan fod y mwyafrif o borwyr mawr bellach yn rhedeg ar Chromium. Mae Firefox yn cael ei ddarparu gan gorff nid-er-elw ac mae’n ymroddedig i drwsio’r rhyngrwyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Firefox Cymraeg.