Mae gan Owain Jones ddisgrifiad o’r broses o osod y cyfieithiad Cymraeg o Umbraco ym mlog Method4.
Beth yw Umbraco? Mae Umbraco yn system rheoli cynnwys hyblyg a hawdd golygu cynnwys o’i fewn ar gyfer gwefannau. Mae’n god agored ac mae modd ei ddefnyddio am ddim neu dalu i gael cefnogaeth a gwesteia o fewn Umbraco Cloud.
Pwy yw Method4? Cwmni meddalwedd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, sy’n creu deunydd digidol – apiau, gwefannau ac yn gallu creu strategaethau digidol cwmniau a chyrff.