Welsh Lessons – rhaglen iPhone ar gyfer dysgwyr

Gan | 19/12/2009

welsh_lessons_1

Rhaglen iPhone  ar gyfer dysgwyr yw Welsh Lessons. Mae’r enw ychydig yn gamarweiniol gan nad gwersi fel y cyfrwy sy’n gynnwysiedig, ond yn hytrach llyfr ymadroddion gyda recordiadau sain i gyd fynd â phob brawddeg.

Yn anffodus, ar hyn o bryd dysgwr sy’n llefaru’r brawddegau. Yn ogystal, Cymraeg y de yw’r unig dafodaiaeth sy’n cael ei chynnig, ond nid oes dim yn y rhaglen i rybuddio darpar ddysgwyr yn y gogledd am hyn.  Gobeithio y bydd diweddaraiadau yn y dyfodol yn mynd i’r afael â’r problemau hyn, gan fod angen mawr am raglen o’r math hwn.

Mae Welsh Lessons ar gael o’r App Store am 59 ceiniog.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .