Cymraeg ar yr iPhone

Gan | 19/12/2009

Does dim rhyngwyneb Gymraeg ar gael ar gyfer yr iPhone, ond mae modd newid rhai o osodiadau’r system i’r Gymraeg, gan gynnwys enwau’r dyddiau a’r misoedd yn y calendr.

I newid y gosodiadau, ewch i sgrin gartref  yr iPhone a dewis:

Settings > General > International > Region Format > Welsh (United Kingdom)

Wedi i chi wneud hynny, bydd dyddiau’r wythnos a’r misoedd yn newid i’r Gymraeg drwy’r system, gan gynnwys yn y Calendr (gweler isod).

Sylwer na fydd hyn yn newid iaith botymau’r rhyngwyneb (e.e. Today, List, Day, Month) i’r Gymraeg.

3 sylw ar “Cymraeg ar yr iPhone

  1. Rhodri ap Dyfrig

    Un broblem dwi di ffeindio gyda hwn. Mae app y Guardian yn torri os mae’r gosodiadau iaith yn Gymraeg. Dwi wedi gorfod ei droi nol i’r Saesneg, a heb ddod rownd i gwyno eto…

  2. Gruffudd Prys

    Mae app y Guardian yn gweithio’n iawn i mi gyda’r gosodiadau iaith yn Gymraeg – rioed ‘di cael problem.

  3. steffan hughes

    Helo mae geni ffon symudol GT-S53760 Samsung Galaxy ac fyswn hoffi cael o yn y iaeth Gymraeg. Dach chi’n gwybod sut fyswn i yn gallu wneud o. Diolch

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .