Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg.
Pam?
Mae wedi dod yn amlwg mor fawr yw ein dibyniaeth ar dechnoleg, gyda’r defnydd o dechnolegau clyfar yn dod yn ran ymarferol ym mywydau pob dydd nifer ohonom. Dyma gyfle i ni gyd fel Cymry Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael lle yn y byd technoleg. Drwy wneud un peth bach gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i le’r Gymraeg mewn technolegau adnabod lleferydd.
Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!
#DefnyddiaDyLais