Fideo Recordio eich Llais i Common Voice Cymraeg

Gan | 28/12/2020

Mae angen llawer iawn o bobl gyfrannu eu lleisiau i Common Voice Cymraeg, dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud.

Pam?

Mae wedi dod yn amlwg mor fawr yw ein dibyniaeth ar dechnoleg, gyda’r defnydd o dechnolegau clyfar yn dod yn ran ymarferol ym mywydau pob dydd nifer ohonom. Dyma gyfle i ni gyd fel Cymry Cymraeg i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i gael lle yn y byd technoleg. Drwy wneud un peth bach gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i le’r Gymraeg mewn technolegau adnabod lleferydd.

Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!

#DefnyddiaDyLais

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .