Mae Alexa, cynorthwyydd personol cwmni Alexa eisiau dysgu ieithoedd newydd ac yn gofyn i’w ddefnyddwyr i helpu. Ymhlith yr ieithoedd mae’r Gymraeg.
Yr hyn mae Alexa’n ceisio ei wneud yw dysgu ymadroddion Cymraeg y mae’n eu hystyried yn rhai defnyddiol.
I gychwyn mae angen gosod sgil Cleo
Ar ôl gosod y sgil oddi ar wefan Amazon, mae’n rhaid agor y sgil drwy ddweud “Alexa, open Cleo”.
Bydd Alexa’n disgrifio’r ffordd mae Cleo’n gweithio ac yn gofyn i chi pa iaith rydych yn ei siarad. Dywedwch “Welsh”
Wedyn bydd yn symud i’r cylch cyntaf o gwestiynau. Yn ystod bob cylch bydd Alexa’n gofyn i chi ddweud o leiaf pum peth yn Gymraeg. Arhoswch i Alexa eich annog ac yna ymateb yn Gymraeg. Efallai y bydd yn gofyn i chi ddweud rhywbeth penodol neu unrhyw beth. Bydd natur y cylch yn amrywio bob tro rydych yn ei chwarae.
Ceisiwch siarad mor naturiol ag y bo modd, mae’n well siarad Cymraeg naturiol na chyfieithu rhywbeth o’r Saesneg.
I gau Cleo ar unrhyw bwynt , dywedwch “Alexa, stop”.
I weld sut rydych yn cymharu ag eraill, gofynnwch, “Alexa, ask Cleo how am I doing?” Gallwch ennill bathodynnau ac esgyn drwy’r rhengoedd drwy chwarae Cleo’n aml.
Dyma enghraifft o sut mae’n gweithio ar gyfer y Ffrangeg o wefan sgil Cleo:
User: Alexa open Cleo.
Alexa: Welcome back! Would you like to continue teaching me French?
User: Yes.
Alexa: OK, think of a city where they speak French. Ask me for the weather there.
User: Quel temps fait-il à Toulouse?
Alexa: Ask me for the time.
User: Quelle heure est-il?
Alexa: Think of your favorite French song. Ask me to play it.
User: Joue La Vie en Rose par Edith Piaf.
Alexa: Think of an actor. Ask me when they were born.
User: Quand est-ce que Jean Dujardin est né?
Alexa: Think of a store where you shop. Ask me when it opens.
User: À quelle heure est-ce que Carrefour ouvre?
Alexa: Thanks! Would you like to do another round?
User: Yes!
Mae’n dda bod Alexa’n dysgu Cymraeg ac yn werthfawr ein bod yn gallu cyfrannu. Gobeithio y bydd modd i ni ddefnyddio Alexa’n Gymraeg yn fuan. Does dim dyddiadau ar y wefan am bryd y bydd hyn yn digwydd. Gorau po fwyaf o gyfranwyr a chyfraniadau sydd.
Sut mae hyn yn wahanol i Common Voice, Mozilla?
- Mae trwydded Common Voice yn un gwbl agored. Mae modd i unrhyw un i ddefnyddio’r data llais i ddatblygu technoleg llais, does dim sôn am drwyddedu yma gan Amazon, felly’r dybiaeth yw mai Amazon yn unig fydd yn cael defnyddio’r data llais yma.
- Mae Common Voice yn casglu brawddegau amrywiol ac eang er mwyn cynnig technoleg llais i destun soffistigedig, tra bod Cleo’n casglu dim ond ymadroddion ar gyfer defnydd Alexa ac o bosib cynnyrch eraill Amazon.
- Mae’r flaenoriaeth i Common Voice ond mae hwn yn ddefnyddiol hefyd.