Mae’r Fairphone 3 yr /e/Foundation yn rhedeg fersiwn o Android heb Google (/e/OS) ac yn cynnig amgylchedd agored a diogel. Mae modd dewis y Gymraeg fel iaith y rhyngwyneb drwy’r Gosodiadau.
Mae’r pecyn /e/Foundation hefyd yn cynnwys adnodd calendr, e-bost, man cadw dogfennau, lluniau a cherddoriaeth ac ati ar sail NextCloud. Dyw’r rhain ddim ar gael yn Gymraeg, eto.
Mae’r ffôn ei hun wedi ei ddatblygu i fod y mwyaf cynaliadwy a hawdd ei drwsio. Mae manylion y ffôn i’w gweld ar wefan Fairphone.
Cost Fairphone /e/OS yw tua £435
Maen nhw hefyd yn gwerthu ffonau Samsung Galaxy ail law wedi eu fflachio i /e/OS am rhwng tua £226 a £416.
Mae modd fflachio /e/OS ar i nifer helaeth o ffonau Android – ar eich menter eich hun… 🙂
Diolch i Aled Powel am y cyfieithiad Cymraeg o LineageOS, sy’n sail i /e/OS.