Mae Microsoft wedi lansio pecyn iaith Cymraeg ar gyfer Windows 7. Yn dilyn methiant cymharol eir ragflaenydd, Windows Vista, mae Windows 7 wedi cael ymateb da oddi wrth y beirniaid a ‘r defnyddwyr.
Mae’r pecyn iaith ar gael o wefan Microsoft. Ewch i dudalen pecyn iaith Cymraeg Windows 7 a dilyn y cyfarwyddiadau. Bydd angen llwytho’r pecyn i lawr a’i osod ar y cyfrifiadur. Bydd y broses yn cymryd tua 10 – 15 munud gan gynnwys ailgychwyn Windows.
Newydd weld hysbyseb swyddogol am Windows 7 Cymraeg ar wefan Microsoft Office. Mae’r llun yn dangos tair delwedd, a theitl un ohonyn nhw ydy ‘Ganolfan’.
Gamgymeriad, tybed?!?
Gareth
Fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg i hyn i mi yn Microsoft Access ar Windows XP Cymraeg unwaith. Fe wnawn ni geisio gwirio os mai problem gyda’r pecyn iaith yw hyn â chysylltu gyda Microsoft.
Oes ’na rhywun arall wedi sylweddoli for Windows 7 yn y Gymraeg yn cysidro G ac F i fod yn un llythyren?
Yn Outlook neu iTunes, mae popeth yn cychwyn G neu F wedi’i grwpio efo’u gilydd, felly mae rhywun yn cael rhestr debyg i:
Ee
Ga
Fb
Fc
Fd
Ge
Ff
H
a.y.y.b