Firefox Preview – ar ei ffordd

Gan | 16/02/2020

Firefox Preview yw porwr symudol nesaf Firefox ar gyfer dyfeisiau Android.

Bydd yn cynnwys elfennau poblogaidd a defnyddiol Firefox ar gyfer y bwrdd gwaith – cyflymder, diogelwch a’r gallu i osod ychwanegion.

Ar hyn o bryd mae’n cael ei ddatblygu ond mae modd ei brofi drwy lwytho i lawr Firefox Preview neu’r fersiwn Nightly. Fel mae’r enw’n awgrymu mae’r fersiwn Nightly’n cael ei ddiweddaru bob dydd. Mae yna fwy o nodweddion newydd a chyfieithiad ar y Nightly ond mae’n fwy ansad.

Mae’r ddau fersiwn i’w cael o Google Play neu APKPure ar eich dyfeisiau symudol.

Cefndir: Reinventing Firefox for Android: a Preview

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .